Sicrhau Ffyniant. Cryfhau Cymuned.

Mae Hwb Pentredŵr yn brosiect wedi’i gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Dyfodol Gwledig ac fe’i gweithredir ar y cyd gan Gymdeithas Gymunedol Pentredŵr a Gwlangollen.

Nod y prosiect yw sicrhau dyfodol mwy ffyniannus i bobl leol a chryfhau’r gymuned trwy leihau effaith ynysigrwydd gwledig a digidol. Mae’r prosiect yn gweithio tuag at sicrhau ffyniant cymunedol trwy ddatblygu sgiliau gwledig, mynd i’r afael ag ynysigrwydd gwledig, cefnogi cynhwysiant digidol a mynediad i wasanaethau, a chryfhau’r gymuned trwy hynny.

Mae’r diwydiant defaid yn ganolog i ffermio yn y dyffryn, felly mae hybu gwlân ac ymchwilio i ddefnydd ehangach cnu a gynhyrchir yn lleol yn elfen allweddol y gwaith mae Hwb Pentredŵr yn ei wneud. Mae’r ffocws penodol hwn yn deillio o’r prisiau isel iawn mae ffermwyr yn ei gael am wlân yn dilyn cneifio eu defaid.

 

 

Yma yn Hwb Pentredŵr yr ydym yn gyrru ein cenhadaeth ymlaen i sefydlu marchnad well i wlân a gynhyrchir ar y bryniau o gwmpas ein dyffryn prydferth. Ar hyn o bryd mae'r costau'n llawer mwy nag unrhyw ddychweliad ar gyfer y 100% naturiol, adnewyddadwy a bioddiraddadwy hwn.

Nodau prosiect Gwlangollen yw cryfhau’r gymuned a gwella ffyniant cynhyrchwyr clu a chrefftwyr.

Bydd amcanion ar y cyd Hwb Pentredŵr a Gwlangollen i oresgyn tlodi gwledig a’r diffyg cyfleoedd cyflogaeth yn gweithio tuag at sicrhau ffyniant y gymuned trwy ddarparu:

FaLang translation system by Faboba