Archwilio Technegau Gwydr

Archwilio Technegau Gwydr

Bydd cyfranogwyr yn ymchwilio ac arbrofi gyda defnyddiau 2D a hefyd yn dylunio a gwneud darnau gwydr unigol gan ddefnyddio ffritiau gwydr, powdrau a phaent. Y thema fydd delweddaeth botanegol. Bydd y darnau yn cael eu harddangos gyda'i gilydd i greu gosodiad parhaol yn y ganolfan.


Verity Pulford
www.veritypulford.com

Mae Verity yn artist gwydr sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Gogledd Cymru.

Mae Verity yn defnyddio amrywiaeth o brosesau i greu gwaith sy'n cyfuno technegau odyn, pensaernïol a chastio mewn ffyrdd unigryw i greu llestri, cerflunwaith, gosodiadau, celf pensaernïol a chyhoeddus.

Mae ei gwaith wedi'i ysbrydoli gan strwythurau organig - yn enwedig y manylion bach - siapiau a gweadau algâu, ffyngau, cen, mwsogl a rhedyn. Mae hi hefyd wedi’i swyno gan gatalogio arteffactau natur- hanes natur, cyanotypes cynnar, pelydrau-x, delweddau microsgopig o’r corff dynol a darluniau botanegol.

Mae rhinweddau gwydr yn ysbrydoli Verity yn gyson, y breuder a'r cryfder, y tryloywder, didreiddedd, y gallu i greu haenau, dyfnder, patrwm, gwead - a hyn i gyd wedi'i gyfuno â'r gallu i drawsyrru, adlewyrchu a sianelu golau.

Gwybodaeth am Ddigwyddiadau

Dyddiad 21-06-2022 10:00 am
Pris RHYDD
Lleoliad Ganolfan Gymunedol Pentredŵr
We are no longer accepting registration for this event
FaLang translation system by Faboba