1. Cyflwyniad

 

1.1 Rydym ni wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd y rhai sy’n edrych ar ein gwefan a defnyddwyr ein gwasanaethau.

1.2 Mae’r polisi hwn yn berthnasol lle rydym ni’n gweithredu fel rheolwr data yng nghyswllt data personol y rhai sy’n ymweld â’n gwefan a defnyddwyr ein gwasanaethau; mewn geiriau eraill, lle rydym ni’n penderfynu ynghylch dibenion a dulliau prosesu’r data personol hwnnw.

1.3 Trwy ddefnyddio ein gwefan a chytuno â’r polisi hwn, rydych chi’n cytuno i’n defnydd cwcis yn unol â thelerau’r polisi hwn.

 

2. Sut rydym ni’n defnyddio eich data personol

 

2.1   Yn yr Adran hon rydym ni’n nodi:

(a)   categorïau cyffredinol y data personol y gallem ei brosesu;

(b)   yn achos data personol na chawsom yn uniongyrchol gennych chi, nodir ffynhonnell a chategorïau penodol y data hwnnw;

(c)    dibenion prosesu data personol; a

(d)   seiliau cyfreithiol prosesu’r data.

2.2   Gallem brosesu data am eich defnydd o’n gwefan a’n gwasanaethau ni (“data defnyddio”). Gallai’r data defnyddio gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math a fersiwn y porwr, y system weithredu, y ffynhonnell atgyfeirio, hyd yr ymweliad, y tudalennau yr edrychwyd arnynt a llwybrau symud trwy’r wefan, yn ogystal â gwybodaeth am amseriad, amlder a phatrwm defnyddio’r gwasanaeth gennych chi. Ffynhonnell y data defnyddio yw ein system tracio dadansoddiadol. Gellid prosesu’r data defnyddio hwn at ddibenion dadansoddi sut y defnyddir y wefan a’n gwasanaethau ni. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithiol, sef gweinyddiaeth briodol ein gwefan a’n busnes. 

2.3   Gallem brosesu unrhyw wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw ymholiad rydych chi’n ei gyflwyno i ni ynghylch nwyddau a/neu wasanaethau (“data ymholiad”). Gellid prosesu’r data ymholiad at ddibenion cynnig, marchnata a gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau perthnasol i chi. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw caniatâd. 

2.4   Gallem brosesu gwybodaeth yn ymwneud â thrafodion, yn cynnwys prynu nwyddau a gwasanaethau, rydych chi’n eu gwneud gyda ni trwy ein gwefan (“data trafodion”). Gallai’r data trafodion gynnwys eich manylion cyswllt chi, manylion eich cerdyn talu a manylion yr hyn a brynwyd. Gellid prosesu’r data trafodion at ddiben cyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau a brynwyd a chadw cofnodion priodol y trafodion hynny.  Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu yw cyflawni cytundeb rhyngoch chi a ni a/neu gymryd camau, ar eich cais chi, i lunio cytundeb o’r fath a’n buddiannau cyfreithiol ni, yn benodol ein buddiant yng ngweinyddiaeth briodol ein gwefan a’n busnes. 

2.5   Gallem brosesu gwybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni at ddiben cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost a/neu ein llythyrau newyddion (“data hysbysu”). Gellid prosesu’r data hysbysu at ddibenion anfon yr hysbysiadau perthnasol a/neu lythyrau newyddion atoch chi. Sail gyfreithiol y prosesu yw cyflawni cytundeb rhyngoch chi a ni a/neu gymryd camau, ar eich cais chi, i lunio cytundeb o’r fath. 

2.6   Gallem brosesu gwybodaeth a gynhwysir yn neu’n ymwneud ag unrhyw gyfathrebiad rydych chi’n ei anfon atom ni (“data gohebiaeth”). Gallai’r data gohebiaeth gynnwys manylion y cyfathrebiad a’r metadata sy’n gysylltiedig ag ef. Bydd ein gwefan yn cynhyrchu metadata’n gysylltiedig â’r cyfathrebiad trwy gyfrwng ffurflen gysylltu’r wefan. Gellid prosesu’r data gohebiaeth at ddibenion cyfathrebu gyda chi a chadw cofnodion. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu yw ein buddiannau cyfreithlon ni, sef gweinyddiaeth briodol ein gwefan a busnes a chyfathrebu gyda’r defnyddiwr. 

2.7   Gallem brosesu unrhyw ddata personol a nodir yn y polisi lle bo angen sefydlu, gweithredu neu amddiffyn achosion cyfreithiol, p’un ai mewn achosion llys neu drwy weithdrefn weinyddol neu y tu allan i’r broses llys. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu yw ein buddiannau cyfreithlon, sef diogelu a sicrhau ein hawliau cyfreithiol, eich hawliau cyfreithiol chi a hawliau cyfreithiol pobl eraill. 

2.8   Gallem brosesu eich data personol a nodir yn y polisi hwn lle bo angen at ddibenion cael neu gynnal polisi yswiriant, rheoli risgiau neu gael cyngor proffesiynol. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu yw ein buddiannau cyfreithlon, sef diogelu ein busnes yn erbyn risgiau mewn modd priodol. 

2.9   Yn ychwanegol at y dibenion penodol y gallem brosesu eich data personol ar eu cyfer fel a nodir yn Adran 2, gallem hefyd brosesu eich data personol lle bo prosesu o’r fath yn angenrheidiol i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol rydym yn ddarostyngedig iddo, neu er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol chi neu fuddiannau penodol person naturiol arall. 

2.10 Peidiwch â rhoi data personol unrhyw unigolyn arall i ni, oni bai ein bod ni’n eich promptio chi i wneud hynny. 

 

3. Rhoi eich data personol i eraill

 

3.1   Ni fyddwn yn datgelu eich data i unrhyw drydydd parti sy’n darparu nwyddau a/neu wasanaethau. Byddwn yn prosesu data personol ar gyfer ein dibenion busnes craidd ein hunain yn unig. 

3.2   Gallem ddatgelu eich data personol i’n cwmni yswiriant a/neu ein cynghorwyr proffesiynol cyn belled ag y bo’n angenrheidiol at ddibenion cael neu gynnal polisi yswiriant, rheoli risgiau, cael cyngor proffesiynol neu sefydlu, gweithredu neu amddiffyn achos cyfreithiol, p’un ai mewn achosion llys neu drwy weithdrefn weinyddol neu y tu allan i’r broses llys. 

3.3  Gallem ddatgelu eich data personol i unrhyw aelod o’n grŵp cwmnïau (mae hyn yn golygu ein is-gwmnïau, ein cwmni daliol a’i holl is-gwmnïau) cyn belled ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion, ac ar y seiliau cyfreithiol, a nodir yn y polisi hwn.  

3.4   Yn ychwanegol at ddatgeliadau penodol data personol a nodir yn Adran 4, gallem ddatgelu eich data personol chi lle bo datgelu’n angenrheidiol i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol rydym yn ddarostyngedig iddo, neu er mwyn amddiffyn eich buddiannau hanfodol chi neu fuddiannau hanfodol person naturiol arall. Hefyd gallem ddatgelu eich data personol chi lle mae datgelu o’r fath yn angenrheidiol ar gyfer sefydlu, gweithredu neu amddiffyn achosion cyfreithiol, p’un ai mewn achosion llys neu drwy weithdrefn weinyddol neu y tu allan i’r broses llys. 

 

4. Cadw a dileu data personol

 

4.1   Mae’r Adran hon yn nodi ein polisïau a’n gweithdrefnau cadw data, a ddyluniwyd i gynorthwyo i sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio â’n hymrwymiadau cyfreithiol o ran cadw a dileu data personol. 

4.2   Ni fydd unrhyw ddata personol rydym ni’n ei brosesu at unrhyw ddiben neu ddibenion yn cael ei gadw am hirach nag sy’n angenrheidiol ar gyfer y diben hwnnw neu’r dibenion hynny. 

4.3   Byddwn yn cadw eich data personol fel a ganlyn:

(a)   Cedwir data defnyddio, data ymholiad, data trafodion, data hysbysu a data gohebiaeth am gyfnod isafswm o 18 mis yn dilyn derbyn y data hwnnw, ac am uchafswm o saith mlynedd yn dilyn darfod ein hawl rhesymol i ddefnyddio’r data a’r sail cyfreithiol ar gyfer hynny. 

4.4   Mewn rhai achosion nid yw’n bosibl i ni nodi ymlaen llaw am ba gyfnod y cedwir eich data personol. Dan amgylchiadau o’r fath byddwn yn penderfynu ar y cyfnod cadw’r data ar sail y meini prawf isod:

(a)   penderfynir ar gyfnod cadw data defnyddio, data ymholiad, data trafodion, data hysbysu a data gohebiaeth ar sail ein hangen rhesymol i barhau i ddefnyddio’r data hwnnw ar y sail gyfreithiol bod hynny er budd cyfreithlon i ni, sef gweinyddiaeth briodol ein gwefan a busnes. 

4.5   Er gwaethaf darpariaethau eraill yr Adran hon, gallem gadw eich data personol lle bo cadw’r data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol rydym yn ddarostyngedig iddo, neu er mwyn amddiffyn eich buddiannau hanfodol neu fuddiannau hanfodol person naturiol arall. 

 

5. Diogeledd data personol

 

5.1   Byddwn yn gweithredu rhagofalon technegol a threfniadol priodol i gadw eich data personol yn ddiogel ac atal colli, camddefnyddio neu addasu eich data personol. 

5.2   Byddwn yn storio eich data personol ar gyfrifiaduron personol, dyfeisiau tabled a dyfeisiau symudol, ac mewn systemau diogel cadw cofnodion â llaw. 

 

7. Diwygiadau

 

7.1   Gallem ddiweddaru’r polisi hwn o dro i dro trwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan.

7.2   Dylech wirio’r dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod chi’n fodlon ag unrhyw newidiadau i’r polisi hwn.  

 

8. Eich hawliau

 

8.1   Cewch roi cyfarwyddiadau i ni ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym ni amdanoch chi; bydd darparu gwybodaeth o’r fath yn ddarostyngedig i ddarparu tystiolaeth briodol o’ch hunaniaeth chi (yn arferol gwnawn dderbyn llungopi o’ch pasbort wedi’i ardystio gan gyfreithiwr neu fanc ynghyd â chopi gwreiddiol bil cyfleustodau sy’n dangos eich cyfeiriad cyfredol, at y diben hwn). 

8.2   Gallem atal gwybodaeth bersonol rydych chi’n cyflwyno cais amdani i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith. 

8.3   Cewch roi cyfarwyddiadau i ni ar unrhyw adeg i beidio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata. 

8.4   Yn ymarferol, yn arferol byddwch un ai’n cytuno’n benodol ymlaen llaw i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi ddewis optio allan o ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata. 

 

9. Gwefannau trydydd parti

 

9.1   Mae ein gwefan ni yn cynnwys hyperddolenni i, a manylion gwefannau trydydd parti.

9.2   Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros, ac nid ydym yn gyfrifol am bolisïau ac arferion preifatrwydd trydydd partïon. 

 

10. Cwcis

 

10.1 Cwci yw ffeil sy’n cynnwys dynodydd (cyfres o lythrennau a rhifau) a anfonir gan weinydd gwe i borwr gwe ac mae’n cael ei storio gan y porwr. Yna mae’r dynodydd yn cael ei anfon yn ôl i’r gweinydd bob tro mae’r porwr yn gofyn am weld tudalen gan y gweinydd.

10.2 Gall cwcis fod yn rhai sydd un ai’n “barhaus” neu “sesiwn”: bydd cwci parhaus yn cael ei storio gan borwr gwe a bydd yn parhau’n ddilys tan ei ddyddiad darfod penodedig, oni bai ei fod yn cael ei ddileu gan y defnyddiwr cyn y dyddiad darfod; cwci sesiwn, ar y llaw arall, yw un fydd yn darfod ar ddiwedd sesiwn y defnyddiwr, pan gaeir y porwr gwe.

10.3 Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n galluogi adnabod defnyddiwr yn bersonol yn arferol, ond gallai gwybodaeth bersonol rydym ni’n ei storio amdanoch chi fod yn gysylltiedig â’r wybodaeth sy’n cael ei storio yn ac sy’n deillio o gwcis. 

 

11. Cwcis a ddefnyddir gan ddefnyddwyr ein gwasanaeth

 

11.1 Mae ein darparwyr gwasanaethau’n defnyddio cwcis a gallai’r cwcis hynny gael eu storio ar eich cyfrifiadur pan rydych chi’n edrych ar ein gwefan. 

11.2 Rydym ni’n defnyddio Google Analytics i ddadansoddi sut y defnyddir ein gwefan. Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth am ddefnydd gwefan trwy gyfrwng cwcis. Defnyddir yr wybodaeth yn ymwneud â’n gwefan ni i greu adroddiadau am ddefnydd ein gwefan. Gellir gweld polisi preifatrwydd Google yn:  https://www.google.com/policies/privacy/

 

12. Rheoli cwcis

 

12.1 Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatàu i chi wrthod derbyn cwcis a dileu cwcis. Mae’r dulliau gwneud hynny’n amrywio o un porwr i’r llall, ac o un fersiwn i’r llall. Fodd bynnag, medrwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am wrthod a dileu cwcis trwy’r dolenni hyn:

(a)   https://support.google.com/chrome/answer/95647?hl=en (Chrome);

(b)   https://support.mozilla.org/en-US/kb/enable-and-disable-cookies-website-preferences (Firefox);

(c)    http://www.opera.com/help/tutorials/security/cookies/ (Opera);

(d)   https://support.microsoft.com/en-gb/help/17442/windows-internet-explorer-delete-manage-cookies (Internet Explorer);

(e)   https://support.apple.com/kb/PH21411 (Safari); a

(f)    https://privacy.microsoft.com/en-us/windows-10-microsoft-edge-and-privacy (Edge).

12.2 Bydd gwrthod yr holl gwcis yn cael effaith negyddol ar ba mor rhwydd yw defnyddio llawer o wefannau. 

12.3 Os ydych chi’n gwrthod neu’n blocio cwcis, efallai na fyddwch chi’n medru defnyddio holl nodweddion ein gwefan.

 

13. Ein manylion ni

 

13.1 Perchennog a gweithredydd y wefan hon yw Cymdeithas Gymunedol Pentredŵr a’r Cylch.

13.3 Ein prif leoliad busnes yw Canolfan Cymuned Pentredŵr, Pentredŵr, Llangollen LL20 8DG, Y Deyrnas Unedig.

13.4 Mae’n bosibl i chi gysylltu gyda ni:

(a)   trwy’r post, i’r cyfeiriad a nodir uchod

(b)   dros y ffôn, ar y rhif cyswllt a gyhoeddir ar ein gwefan

(c)    trwy e-bost, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

 

FaLang translation system by Faboba